|
Cyswllt Busnes -
Cyflwyniad
Mae Cyswllt Busnes yn cynnig cyngor
proffesiynol ac ymarferol i fusnesau Cymru ac unrhyw un sydd
am fod yn hunangyflogedig neu am ddechrau eu busnes eu hunan
yn lleol. Rydym hefyd yn cynorthwyo mentrau cymdeithasol.
Mae nifer o’n gwasanaethau am ddim ac mae
eraill ar gael ar gyfraddau isel, cymorthdaledig. Rydym yn
cynnig ymgynghoriad cychwynnol AM DDIM heb unrhyw ymrwymiad.
Mae gennym swyddfeydd ar draws Castell-nedd
Port Talbot gan gynnwys Llandarsi, Port Talbot a
Phontardawe.
|
|
 |
|
Cwrs Dechrau Busnes 3
Diwrnod
Rydym yn cynnal gweithdai Dechrau Busnes sy’n
ddelfrydol i’r sawl sy’n bwriadu dechrau busnes. Mae’r
gweithdai yn anffurfiol ac ar gyfer pobl sy’n newydd i
fusnes ac sydd am wybod rhagor am fod yn fos arnynt eu
hunan. Mae hwn yn gwrs poblogaidd iawn sy’n cwmpasu cyllid,
llif arian, cynlluniau busnes, marchnata, ac ati.. Nid oes
angen gwybodaeth na phrofiad blaenorol ac nid oes rhaid i
chi fynd ymlaen gyda’ch syniad busnes os penderfynwch nad
yw’r penderfyniad yn iawn i chi.
|
|
 |
|
Cymorth i Fusnesau Sefydledig
Gallwn helpu’ch busnes gydag amrywiaeth eang
o faterion gan gynnwys cael gafael ar grantiau a
benthyciadau, ysgrifennu cynlluniau busnes, materion llif
arian, marchnata, gwefannau, dod o hyd i gontractau,
tendrau, arloesi, patentau, nodau masnach, optimeiddio
peiriannau chwilio, y rhyngrwyd ac ati.. Mae’r gwasanaethau hyn yn gymorthdaledig ond
efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i dalu’r holl
gostau neu ran ohonynt. Cadwch le heddiw i gael ymgynghoriad
cychwynnol AM DDIM gydag Ymgynghorydd Busnes profiadol.
|
|
 |